Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

I fyny! i fyny! a c i ffwrdd!

Published

on

Yn barod ar gyfer gweithredu

Yn barod ar gyfer gweithredu

MAE ‘MEDDYGON AWYR’ newydd Cymru wedi cael caniatâd swyddogol i ddechrau hedfan ar ôl cael eu lansio gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Fel rhan o EMRTS Cymru (y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys), a ariennir gan Lywodraeth Cymru, bydd ymgynghorwyr yn ymuno ag ymarferwyr gofal critigol ar alwadau Ambiwlans Awyr Cymru am y tro cyntaf.

Mae’r timau’n gallu cyrraedd 95% o’r boblogaeth drwy’r awyr a 46% ar hyd y ffyrdd o fewn 30 munud.

Mae’r ‘meddygon awyr’ wedi bod yn weithredol ers diwedd mis Ebrill ac eisoes wedi cwblhau mwy na 100 o alwadau ar hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru.

Hyd yn hyn, mae’r tîm wedi gwneud chwe thrallwysiad gwaed ac wedi rhoi anesthetig brys fwy nag 20 o weithiau. Mae’r tîm EMRTS wedi ymateb i achosion o drawma mewn mwy na hanner o’r galwadau.

Yn ogystal ag anfon meddygon ar hofrenyddion yr Ambiwlans Awyr, mae EMRTS Cymru hefyd wedi cyflwyno technoleg ac offer arloesol newydd gan y lluoedd arfog a datblygiadau cwbl newydd ym maes gwasanaeth hofrenyddion meddygol brys yn y DU.

Mae’r gwasanaethau sydd wedi’u huwchraddio yn cynnwys offer newydd sydd fel arfer ond ar gael mewn ysbytai, cerbydau ymateb brys 4×4 newydd a mwy o driniaethau ar gyfer pobl â salwch ac anafiadau difrifol ledled Cymru.

Mae lansio EMRTS Cymru yn golygu mai Ambiwlans Awyr Cymru yw un o’r gwasanaeth cyntaf o’i fath i sifiliaid yn Ewrop i gludo tri chynnyrch gwaed gwahanol, sy’n caniatáu i’r tîm gofal critigol wneud trallwysiadau gwaed yn y fan a’r lle. Mae hefyd wedi cyflwyno monitorau, peiriannau adeiladu, offer monitro gwaed a sganwyr uwchsain o’r radd flaenaf.

Datblygwyd EMRTS Cymru mewnpartneriaethrhwngLlywodraeth Cymru, elusen Ambiwlans Awyr Cymru, GIG Cymru, Gwasanaeth Gwaed Cymru, a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £2.868m o 2015-16 i gefnogi tîm gofal critigol EMRTS Cymru. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn parhau i ddibynnu ar roddion elusennol i godi £6m ofynnol bob blwyddyn i gadw’r ambiwlansys awyr yn yr awyr.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae lansiad swyddogol EMRTS Cymru heddiw yn garreg filltir bwysig i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Bydd y timau gofal critigol newydd yn cael eu harwain gan feddygon ac yn ein galluogi i gynnig y gofal gorau posibl i’r cleifion sydd fwyaf difrifol wael yng Nghymru.

Mae hyn yn golygu bod cleifion mewn rhannau diarffordd a gwledig o Gymru yn gallu manteisio ar sgiliau ymgynghorydd neu feddygon gofal dwys a all achub bywyd a rhoi gofal critigol arbenigol.”

Un o’r bobl gyntaf i elwa ar ofal y meddygon awyr oedd Simon James, 37 oed, a gafodd drawiad ar y galon ar y cae wrth chwarae i Glwb Rygbi Brynaman ar 5 Ebrill.

Ar ôl cael triniaeth frys gan rai o’r dorf, aelodau o’i dîm ac ymatebydd cyntaf, cafodd y tad i ddau driniaeth gan y tîm ambiwlans awyr, gan gynnwys Dr Dindi Gill. Fe’i rhuthrwyd i’r ysbyty, lle treuliodd fwy nag wythnos mewn cyflwr difrifol.

Mae bellach yn gwella diolch i’r driniaeth a gafodd gan dîm EMRTS Cymru.

Dywedodd Mr James: “Roedd gan lawer o bobl ran i’w chwarae yn fy helpu, ac fe allai pethau fod wedi bod yn wahanol iawn os byddai un ohonyn nhw ddim yna. Mae siawns eitha’ da y bydden i heb ddod drwyddi.

Bydd y gwasanaeth meddygon awyr yn helpu i achub bywydau, heb unrhyw amheuaeth.

Rwy’n gyrru loris ac yn gweld damweiniau ar hyd yr M4. Mae’r gwasanaeth newydd yn golygu fydd dim rhaid aros i fynd â phobl i’r ysbyty cyn bod meddyg yn gallu eu gweld nhw – mae’r meddyg yna yn y fan a’r lle.

Gallai olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.”

Dywedodd Dr Dindi Gill o EMRTS Cymru: “Mae hyn yn enghraifft wych o’r gadwyn oroesi – mae cael meddyg yn y fan a’r lle yn rhan o’r gadwyn. Rydyn ni’n gallu cynnig gofal gwell, sy’n rhoi mwy o siawns i’r claf adfer o safbwynt niwrolegol ac yn sicrhau eu bod yn cael gofal arbenigol yn brydlon.

“Yn achos Simon, roeddwn i’n gallu rhoi anesthetig cryf iddo, a rhoi tiwb yn ei gorn gwddf i’w helpu i anadlu a gwella’i lefelau ocsigen. Hefyd rhoddais adrenalin i helpu ei bwysau gwaed a’i dawelyddu cyn ei drosglwyddo i’r ysbyty.

Pan gyrhaeddodd yn yr ysbyty, doedd dim rhaid iddo fynd i’r adran frys. Fe aeth yn syth i’r uned cardio arbenigol er mwyn cael angioplasteg i glirio’r rhydweli oedd wedi achosi’r trawiad ar y galon.

Mae hyn oll wedi rhoi mwy o siawns iddo ddod drwyddi a gwella.”

Dywedodd Angela Hughes, prif weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae rhoi ymgynghorwyr ar ein hofrenyddion yn gam mawr arall tuag at ddarparu’r gwasanaeth ambiwlans awyr gorau yn y byd. M

Mae’n bwysig i bobl Cymru bod gwasanaeth gofal brys o’r radd flaenaf ar gael, yn enwedig o ystyried nifer y cymunedau gwledig sydd yma. Bydd y datblygiadau hyn yn achub bywydau llawer o bobl sydd angen cymorth brys.

Rydyn ni wedi cael cefnogaeth aruthrol gan bobl yn codi arian ers ein lansio yn 2001, ac rydyn ni’n parhau i ddibynnu’n llwyr ar gyfraniadau elusennol i godi mwy na £6m y flwyddyn i gadw hofrenyddion Cymru yn yr awyr.”

Dywedodd Dr Rhys Thomas, cyd-gyfarwyddwr EMRTS Cymru: “Rydyn ni wedi cael ymateb gwych i broses recriwtio’r rhaglen ac wedi rhoi tîm o glinigwyr hynod ddawnus at ei gilydd o bob rhan o Gymru a thu hwnt.

Mae pob aelod o’r tîm wedi perfformio’n rhagorol i gwblhau eu hyfforddiant cyn mynd ar yr hofrenyddion, ac maen nhw eisoes yn gwneud cyfraniad mawr ar alwadau ledled Cymru.

Mae eu sgiliau, ynghyd â’r offer newydd sydd gennym, yn ffurfio tîm gofal critigol y gall Cymru ymfalchïo’n fawr ynddo.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Last ditch plea to HSBC to reverse decision to axe Welsh language phone line

Published

on

AN MS has issued a last ditch plea to HSBC to reverse its “unacceptable” decision to axe its Welsh language phone service.

Llŷr Gruffydd, who represents North Wales in the Senedd, has spoken out as January 15, the date when the phone line is due to come to an end fast approaches.

The Plaid Cymru politician said executives at the baking giant still have an “opportunity to do the right thing”.

HSBC came under fire after politicians were informed of the bank’s decision to axe its Welsh language service by letter on Wednesday, November 8.

The Senedd’s Culture Committee wrote to the corporation accusing it of “contempt” towards Welsh speakers.

It added that its “failure to maintain an approach consistent with its values is considered disingenuous and disturbing”.

The committee also questioned statements made by José Carvalho, HSBC’s head of wealth and personal banking, who spoke in front of it on November 29.

The banker said that the Welsh-language helpline receives around 22 calls a day, and that the bank had ended up “with only 6% of the calls that are coming in being answered in Welsh” by them.

However, the committee hit back saying this indicates a fundamental failure of service by the bank because it means 94% of calls to the service are not being answered in Welsh,.

The Committee said that the “low number of calls” to the line “reflects” the bank’s “inability to provide a functioning and coherent service that meets the needs of its Welsh speaking customers.”

Llŷr Gruffydd said: “HSBC still has an opportunity to do the right thing by reversing its unacceptable and wrongheaded decision to bring its Welsh language phone service to an end.

“Executives at HSBC should remember that many customers use their banking services because of its Welsh language phone service.

“The bank argues that there isn’t sufficient demand for the helpline because it receives 22 calls a day on average.

“But it’s abundantly clear from the data that with only 6% of those calls being answered in Welsh, they’ve not been coming anywhere near to providing an adequate service.

“Phone calls that are made to the helpline in Welsh should be answered in Welsh. It’s no wonder that a lot of Welsh speakers have given up on phoning it.

“Instead of scrapping the service HSBC’s should invest in it properly for at least 12 months, and that includes ensuring that it is well-advertised. Then at the end of that period it could make a much better assessment of demand.

“The bank’s pledge to ‘arrange a call back in Welsh, within 3 working days is astonishingly disrespectful to Welsh speakers, as well as utterly insensitive to the financial pressures some people will face.

“For a significant number of people, accessing their bank through Welsh is not a ‘choice’ as HSBC claimed.

“HSBC say they ‘have confirmed that all customers can bank in English’, which is frankly an attitude that belongs to the last century. It is also untrue, especially for many elderly and vulnerable people.

“There is understandably a huge amount of anger and frustration right across Wales with HSBC’s general attitude towards the Welsh language.

“Recently I was contacted by a constituent who was quite rightly angry because she had been asked by a member of HSBC’s customer care team to resend a Welsh language query in English.

“That is one of many examples of HSBC’s complete and utter disregard for Welsh speakers.

“As a Welsh speaker myself and as a member of the Senedd’s Culture Committee, I share the real sense of frustration that’s out there.

“Many of their customers in Wales have also seen their local branches close over the last decade.

“The impact of this on their older customers is particularly acute, as well as those who don’t have access to digital technology.

“Though HSBC likes to describe itself as the world’s local bank, it is abundantly clear that this is not the case in Wales as it abandons Welsh speakers and abandons our high streets by shutting down local branches.”

Continue Reading

Cymraeg

Ffermwr yn dysgu popeth y mae angen iddo wybod am ffermio modern drwy Cyswllt Ffermio

Published

on

CYFLWYNODD ei rieni ef i ochr ymarferol ‘tir a da byw’ ffermio yn ifanc iawn, ond i Dylan Morgan, a aned yn Sir Gaerfyrddin, Cyswllt Ffermio sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r unigolyn yma a raddiodd mewn rheoli adeiladu. Dywedodd Dylan fod Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arno i fod y ffermwr ifanc blaengar a hyderus ydyw heddiw.

“A’r peth sy’n wych amdano yw, nad oedd rhaid i mi eistedd trwy oriau o ddarlithoedd theori amaeth am dair blynedd!”

Dywedodd Dylan mai agwedd Cyswllt Ffermio at ei holl wasanaethau hyfforddi a throsglwyddo gwybodaeth yw cyflwyno popeth ar y lefel gywir ar gyfer ffermwyr prysur ond profiadol sy’n gweithio.

“Mae’n ddull o ddysgu ar sail ‘angen gwybod’ sy’n apelio’n fawr ataf gan fy mod yn gallu gwneud lle iddo o amgylch fy nyletswyddau fferm ac ymrwymiadau eraill,” meddai Dylan.

Nid oedd gan Dylan unrhyw fwriad i ddod yn ffermwr pan adawodd Brifysgol Abertawe yn 2011, ond ar ôl ychydig fisoedd yn unig o ffermio’n llawn amser ar fferm bîff a defaid 360 erw ei deulu ger Llanymddyfri, newidiodd ei feddwl yn llwyr.

Roedd yn amlwg yn benderfyniad cywir i’r teulu cyfan ac mae Dylan (32) bellach wedi bod yn ffermio gartref ers bron i un mlynedd ar ddeg.

“Roeddwn i wastad wedi mwynhau helpu gartref pryd bynnag roedd gen i amser rhydd, felly roeddwn i wedi hen arfer ag ochr ymarferol ffermio, ond gan na astudiais i amaethyddiaeth yn y brifysgol, roeddwn i’n teimlo bod yna lawer nad oeddwn i’n ei wybod am iechyd anifeiliaid, pridd a rheoli glaswelltir a’r holl elfennau eraill o ffermio sy’n hanfodol i wella effeithlonrwydd ar y fferm.

“Mae’n hanfodol, fel ffermwyr, fod gan bob un ohonom y wybodaeth sydd ei hangen arnom a systemau yn eu lle i chwarae ein rhan i gadw at y safonau uchaf o les anifeiliaid, cynhyrchu da byw o’r ansawdd uchaf, gan hefyd warchod ein hamgylchedd naturiol a lleihau ein hôl troed carbon.”

Yn gefnogwyr hirdymor gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, a welodd Dylan, ei dad a ffermwyr lleol eraill yn cael cyngor ar faterion yn cynnwys cynllunio rheoli maetholion, archwiliadau carbon a rheoli glaswelltir, mae Dylan yn rhoi llawer o’i amser hamdden i’w ddatblygiad personol.

Gan ddibynnu’n drwm ar ei swyddog datblygu lleol, Alun Bowen, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am yr hyn sydd ar gael, mae Alun wedi cyfeirio Dylan – yn aml yng nghwmni ei dad – at nifer o weithdai iechyd a lles anifeiliaid ar bynciau’n amrywio o ffrwythlondeb y ddiadell a cholledion wyna i wneud y mwyaf o gynhyrchiant buchod sugno, cloffni a rheoli tir. Mae Dylan hefyd wedi dilyn cyrsiau hyfforddi byr â chymhorthdal ac mae’n defnyddio ystod gynhwysfawr y rhaglen o fodiwlau e-ddysgu a ariennir yn llawn yn rheolaidd.

“Mae dysgu ar-lein, mewn cyfnodau byr o 20 munud, gyda chwis ar ddiwedd pob modiwl i sicrhau eich bod wedi cymryd yr holl wybodaeth allweddol i mewn, yn ffordd wych o gynyddu eich gwybodaeth.”

Mae Dylan wedi canolbwyntio’n bennaf ar bynciau iechyd anifeiliaid yn ogystal â rheoli pridd a glaswelltir oherwydd ei fod yn credu’n gryf mewn mabwysiadu agwedd gyfannol at y fferm, gydag ‘arfer gorau ym mhopeth a wnawn’ yn rhan o’u hagenda cynaliadwyedd.

“Diolch i fy ngwybodaeth a sgiliau newydd a thrwy weithredu rhai o’r systemau newydd rydym wedi dysgu amdanynt trwy Cyswllt Ffermio, rydym bellach yn bwydo’r stoc yn llawer mwy effeithlon.

“Mae hyn wedi lleihau ein mewnbynnau’n sylweddol wrth wella perfformiad stoc a chynhyrchiant ac rydym hefyd wedi lleihau lefelau cloffni.”

Mae’r teulu’n sgorio cyflwr y corff yn rheolaidd ac yn meincnodi eu holl stoc ac yn dweud bod cyfrif wyau ysgarthol a phrofi elfennau hybrin trwy Cyswllt Ffermio wedi rhoi gwybodaeth werthfawr iddynt sy’n golygu eu bod wedi lleihau eu dibyniaeth ar driniaethau gwrthlyngyrol drwy fabwysiadu dull wedi’i dargedu’n well.

Gyda’i holl gyflawniadau dysgu wedi’u storio ar-lein yn ei gofnod personol y Storfa Sgiliau, mae Dylan yn dweud bod y system yn ffordd ddefnyddiol o nodi unrhyw feysydd y mae’n dal eisiau dysgu amdanynt.

“Mae ffermio yn ddiwydiant sy’n esblygu ac felly mae angen i ffermwyr o bob cenhedlaeth wybod eu bod yn ddigon gwybodus i wynebu’r cyfleoedd a’r heriau sydd o’u blaenau.”

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

I gael rhagor o wybodaeth am holl wasanaethau cymorth a hyfforddiant Cyswllt Ffermio ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.

Continue Reading

Cymraeg

Cyfle gwych i ennill gwobr yn atyniadau Awdurdod y Parc dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi

Published

on

BYDD tri atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dosbarthu cennin Pedr i ymwelwyr yn rhad ac am ddim ar 4 a 5 Mawrth eleni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Bydd gan Gastell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc nifer cyfyngedig o gennin Pedr i’w dosbarthu i bobl sy’n ymweld â’r safleoedd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi.

Yn ôl y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod y Parc: “Rydyn ni’n annog cynifer â phosib o bobl i ymuno â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, a pha ffordd well o ddathlu diwylliant Cymru yn eich cartref na chael tusw o’r blodau lliwgar yma?

“Bydd y cennin Pedr yn cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin. Oherwydd mai dim ond nifer cyfyngedig fydd ar gael ar bob safle, byddwn yn annog pobl i ymweld â’r safleoedd cyn gynted â phosib ar 4 neu 5 Mawrth er mwyn manteisio ar y cynnig hwn.”

Bydd Parêd blynyddol y Ddraig hefyd yn cael ei gynnal yn Nhyddewi ddydd Sadwrn 4 Mawrth, gyda chriw o ddisgyblion ysgol ac aelodau gofal yn y gymuned yn gadael Oriel y Parc am 11am.

I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Caeriw, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/.

I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Henllys, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/

I gael yr amserau agor a gwybodaeth am y digwyddiad ar gyfer Oriel y Parc, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/.

Continue Reading

Entertainment17 hours ago

NoFit State Circus set to thrill Pembrokeshire this summer

NoFit State Circus is set to captivate Pembrokeshire once again this summer, as they bring back their thrilling big top...

News2 days ago

Search for missing teenager Luke continues at Pembroke Dock

THE SEARCH for the missing 19-year-old, Luke, continues unabated into its fourth day, with efforts increasingly centred around the waterways...

Crime3 days ago

Estate agents admit health and safety failings following fatal market incident

WEST WALES estate agents J J Morris have appeared before Pembrokeshire law courts charged with failing to discharge general health,...

Crime3 days ago

Pembroke man sent ‘grossly offensive and disgusting’ message to sister

A DISTRICT Judge has described how a Pembroke man sent a ‘disgusting, appalling and grossly offensive’ message to his sister...

News4 days ago

Dragon LNG ‘monitoring’ scrap car blaze in Waterston

A BLAZE has broken out at the Waterston Car Dismantler’s business in Waterston, Milford Haven. Dragon LNG which is situated...

News6 days ago

Major search in the area of The Cleddau Bridge and Hobbs Point

A MULTI-AGENCY rescue response was initiated first thing on Saturday following reports of a person in difficulty in the area...

News1 week ago

Newgale pub fire: Cause undetermined, but ruled accidental

THE MID and West Fire and Rescue Service (MAWWFRS) has recently concluded its investigation into the fire that devastated the...

Sport1 week ago

Jasmine, Lleucu, Carys & Courtney: The Pride of Pembrokeshire

Four rugby players from Pembrokeshire are gearing up to take on Ireland in the Women’s Six Nations this weekend. Jasmine...

Crime1 week ago

Independent inquiry into child sex abuse commissioned by Caldey

WE have reported on this story for years, but in a very significant development this week, Caldey Island Abbey has...

Crime1 week ago

Mechanic lands four-figure fine after head-butting officer in Quins

A COURT has heard how a police officer was head-butted outside the Quins Rugby Club in Pembroke Dock by a man described...

Popular This Week