Cymraeg

Dilyn ôl troed menywod arwrol ac arloesol

Screen Shot 2016-08-11 at 14.08.49WYTH DEG mlynedd yn ôl rhwygwyd Sbaen gan ryfel cartref dychrynllyd; rhyfel a fyddai’n newid Sbaen am byth a rhyfel sy’n dal i gorddi’r wlad heddiw. 

Bydd y newyddiadurwr a’r cyflwynydd Dylan Iorwerth yn teithio i Sbaen yn y rhaglen arbennig Cymry Rhyfel Cartref Sbaen nos Sul, 24 Gorffennaf ar S4C, gan ddilyn ôl troed tair Cymraes wnaeth gyfraniad amhrisiadwy yn y rhyfel.

Roedd Sbaen wedi ei rhannu’n ddwy, gyda ffasgwyr a cheidwadwyr y Cadfridog Franco, yn brwydro yn erbyn llywodraeth weriniaethol ddemocrataidd Sbaen.

Cydymdeimlai llawer o Gymry â’r brwydro gwrth ffasgaidd yn Sbaen, ac ymhlith y rhain yr oedd Thora Silverthorne, Margaret Powell a Fifi Roberts.

“Mi ges i agoriad llygad wrth ymchwilio i’w hanes. Roedd clywed straeon y glowyr oedd wedi mynd, ac am y tair aeth o Gymru, yn rhoi golwg newydd ar y peth,” meddai Dylan sy’n byw yn ardal Llanbedr Pont Steffan. “Do’n i ddim wedi sylweddoli pa mor giaidd oedd y rhyfel, ond wrth siarad efo perthnasau’r rhai ddioddefodd, mi wnes i sylweddoli bod y creithiau a’r effaith yn parhau’n ddwfn hyd yn oed heddiw. Mae o’n dal i gorddi pobl, ac yn dal i frifo.”

Roedd Thora Silverthorne yn gomiwnydd ifanc o Abertyleri, ac yn nyrs brofiadol a welodd galedi mawr wrth geisio achub bywydau’r milwyr clwyfedig. Nyrs arall a wnaeth drin cannoedd ar gannoedd o filwyr oedd Margaret Powell o ardal Crughywel. Fe welodd ddioddefaint ar raddfa enfawr yn ystod ei dwy flynedd yn agos at y meysydd brwydro ac wedyn pan oedd hi’n byw mewn gwersyll ffoaduriaid yn Ffrainc am wythnosau wedi’r rhyfel. Cawn hefyd stori Fifi Roberts o Benarth, oedd ar long ei thad, y llong gyntaf i dorri drwy’r blocâd yn Bilbao i fwydo’r trigolion newynog.

“Mae hi’n ofnadwy o bwysig ein bod ni’n clywed stori’r tair,” meddai Dylan, gafodd ei fagu yn Waunfawr, ger Caernarfon. “Mi aeth y ddwy nyrs oherwydd eu cred mewn democratiaeth a’u gwrthwynebiad at Ffasgaeth, ac fe wnaethon nhw gyfraniad mawr. Mi wnaethon nhw ymgeleddu milwyr mewn amodau gwaith ofnadwy, er enghraifft rhoi llawdriniaeth i rai yng ngolau cannwyll.

“Roedd Fifi yn fentrus, roedd ‘na dipyn o sbarc ynddi hi, yn enwedig o gofio ei bod hi’n mynd i deithio gyda’i thad. Roedd hi wedi cyrraedd Guernica yn y dyddiau wedi’r ymosodiad ofnadwy yn fanno ac mi dynnodd ei stori hi sylw at yr hyn oedd wedi digwydd. Mae hi’n bwysig cofio dewrder y menywod yma, roedd eu safiad nhw’r un mor ddewr â’r dynion aeth i ymladd.”

Mae Dylan yn credu nad yw’r byd wedi dysgu oddi wrth ryfeloedd y gorffennol. Pan orffennodd Rhyfel Byd Cartref Sbaen ym 1939, bu raid i filoedd o ffoaduriaid ddianc i ardal Catalwnia yn Ffrainc, gan dderbyn croeso llugoer gan y Ffrancwyr. Ymysg y ffoaduriaid oedd Margaret Powell, a gerddodd gyda’r ffoaduriaid dros fynyddoedd y Pyrenees, yn ystod misoedd oer y gaeaf.

“Dydyn ni ddim wedi dysgu dim, mae gweld sut mae ffoaduriaid yn cael eu trin heddiw yn dangos bod yr un stori yn digwydd o hyd. Rydyn ni hefyd yn gweld ymosodiadau bwriadol ar ysbytai mewn gwledydd fel Syria… yr un ydy’r hanes mewn rhyfeloedd.

“Mae ‘na anghofio bwriadol wedi digwydd yn Sbaen tan yn ddiweddar iawn. Anghofio bwriadol gan garfan Franco oedd yn cuddio gwybodaeth, a mygu’r cof am eu gwrthwynebwyr… ac roedd eu gwrthwynebwyr ofn cofio. Ond mae hi’n bwysig cofio creulondeb y rhyfel yma, gan ei fod o’n dysgu peryglon ffasgaeth i ni. Mae’r hyn gyflawnodd y tair Cymraes er mwyn democratiaeth yn arloesol.”

FOLLOW US ON FACEBOOK