Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Cerddwyr UAC yn codi £2000 ar gyfer elusen

Published

on

screen-shot-2016-09-08-at-10-43-36177 MILLTIR, 9 diwrnod a £2000 – dyna i chi her ar gyfer tîm Undeb Amaethwyr Cymru a gerddodd llwybr Clawdd Offa yn ddiweddar er budd Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru. 

Bu’r criw o Gaernarfon, yn cynnwys Gwynedd Watkin, Swyddog Gweithredol Sirol, cangen Caernarfon o UAC, Gwilym Evans o Gelli, Prenteg ger Tremadog ac Arfon Hughes o Baich-y-Bȋg, Cwm Ystradllyn, Garndolbenmaen yn cerdded yr holl lwybr gan ddechrau ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 23 ac yn cwblhau’r her mewn 9 diwrnod. Ymunodd Richard Parry, Gwindy, Llecheiddior, Garndolbenmaen gyda nhw ar y diwrnod cyntaf.

Gorffennwyd y daith lafurus o ddringo llethrau serth, bothellau a chyrff tost gan y grŵp cyfan ar ddydd Sul Gorffennaf 31, a oedd hefyd yn cynnwys Huw Jones, Swyddog Gweithredol Sirol, cangen Meirionnydd o UAC ac Emyr Wyn Davies, Swyddog Gweithredol Sirol, cangen Trefaldwyn o UAC.

Dechreuodd Huw ac Emyr ar y daith ar ddydd Gwener Mehefin 17 ym Mhrestatyn gan gwblhau 52 milltir yn y cymal cyntaf ac yna ail gychwyn ar y llwybr cenedlaethol, sy’n dyddio nôl i’r wythfed ganrif, ar ddydd Llun Gorffennaf 25, ac yna cerdded gweddill y daith gyda’r criw o Gaernarfon. Cwblhaodd y ddau’r daith mewn 10 diwrnod a hanner.

Agorwyd y llwybr yn haf 1971, ac mae’n cysylltu Clogwyni Sedbury ger Cas-gwent ar lannau Aber Afon Hafren gyda thref glan môr Prestatyn ar lannau môr Iwerddon.

Mae’r llwybr yn croesi wyth sir wahanol ac yn croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr dros 20 o weithiau.

Mae’r llwybr Clawdd Offa’n chwilota drwy’r Gororau tawel ac yn mynd trwy Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gymal godidog Hatterrall Ridge.

Hefyd, mae’n cysylltu tair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sef Dyffryn Gwy, Bryniau Sir Amwythig a Bryniau Clwyd/Dyffryn Dyfrdwy.

Arweinydd tîm Caernarfon ar y daith oedd Gwynedd Watkin sydd wedi cwblhau Llwybr yr Inca ym Mheriw llynedd. “Rwyf am ddiolch o galon i bawb sydd wedi cefnogi ein hymgais ar hyd y daith. Ni fedrai wedi bod yn bosib heb eich cymorth” dywedodd.

“Roedd yn dipyn o her, a gair bach o gyngor i unrhyw un sy’n meddwl dilyn ôl ein traed, gwnewch yn siŵr bod digon o sanau cerdded gyda chi. Mae’n hanfodol ar gyfer taith gerdded mor llafurus. Mae’n bosib bod y 177 milltir yma yn anoddach na Llwybr yr Inca ym Mheriw llynedd.”

Dymuna UAC ddiolch yn arbennig i’r bobl hynny sydd wedi cefnogi’r cerddwyr yn eu hymgais, ni fyddai’r daith yma wedi bod mor llwyddiannus heb eu help nhw.

Cynigwyd lloches dros nos mewn carafanau a brecwastau gan Lywydd cangen Sir Ddinbych o UAC Tim a’i wraig Fiona Faire ym Mhlas Bedw, Pentrecelyn, Ruthun; Tom a Lynne Hughes a’r teulu, Caeau Gwynion, Y Waun; Gweithredwr Cyfrif Gwasanaethau Yswiriant FUW, Gogledd Sir Drefaldwyn, Kay Williams, Tŷ Nant, Sarn Wen, Four Crosses, Llanymynech a’i phartner Dai; Cadeirydd cangen Sir Drefaldwyn o UAC Mark a Helen Williams o Pen y Derw, Ffordun, Y Trallwng; Ivor a Ros Price o Travley, Llowes, Y Gelli; Idris a Gwen Jones o Wyliau Fferm Pen-y-Dre, Llanfihangel Crucornau, Y Fenni a Chris a Jill Lewis o Trevine, Llandeilo Gresynni, Y Fenni.

“Hoffwn ddiolch hefyd i Justin, Helen ac Ieuan Rees o’r George & Dragon Inn, Trefyclo a gynigodd gwely a brecwast am ddim i’r 5 ohonom ar y nos Fercher, ac roedd yna frecwast bendigedig wedi cael ei baratoi ar ein cyfer ar y bore dydd Iau,” ychwanegodd Gwynedd.

Bu Kath Shaw, Blaenhow, Llandeilo Graban, Llanfair-ym-muallt sy’n Llywydd Sir Brycheiniog a Maesyfed ac yn gynorthwyydd gweinyddol rhan amser yn allweddol wrth gynnig cludo’r bagiau. Hefyd bu Elwyn Probert o Fferm Pant, Llanfihangel Ystum Llewern, Trefynwy yn hynod o amyneddgar wrth gwrdd â’r tîm a’i gyrru nhw yn nol ac ymlaen o lwybr Clawdd Offa o’r wahanol leoliadau ar gyfer treulio’r nos.

Mae Huw ac Emyr am ddiolch hefyd i Richard Joyce, Fferm Woodville, Woodbrook, Trefyclo a John ac Alwenna Price o Glawddnewydd, Rhuthun am eu cymorth caredig.

Wrth son am ei brofiad, dywedodd Huw Jones: “Fy hoff ddarn o’r her yma oedd cerdded dros Foel Fammau a dros Y Mynyddoedd Duon, o’r Gelli i Bandy. Roedd y golygfeydd yn hyfryd ac roeddem yn hynod o lwcus gyda’r tywydd.

“Y cyngor fuaswn i yn ei roi i unrhyw un sy’n bwriadu cerdded y llwybr yw cymryd mwy o amser i’w gerdded. Ein her ni oedd cerdded y llwybr mor gloi a phosib ar gyfer yr elusen, ond petai amser gyda chi, i eistedd lawr a mwynhau’r golygfeydd godidog a’r lleoedd o ddiddordeb hanesyddol, a chael sgwrs gyda’r bobl chi’n cwrdd ar hyd y daith.”

“Mae hon wedi bod yn her wych ac yn werth yr ymdrech,” dywedodd Emyr Wyn Davies.

“Oeddech chi’n gwybod petai chi’n cerdded yr holl lwybr o’r gogledd i’r de, mae oddeutu 28,000 troedfedd i’w ddringo, sy’n cyfateb i uchder Everest?

“Fy hoff ddarn i oedd cerdded o Drefyclo i Geintun. Golygfeydd hyfryd ar ddiwrnod heulog braf. Roedd yr holl daith yn brofiad bythgofiadwy – i weld Cymru ar ei hyd, ac yn gwybod bod yr holl ddiwrnodau poenus yn werth chweil ar gyfer yr elusen,” ychwanegodd.

Mae’r pump am ddiolch i bawb sydd eisoes wedi eu noddi nhw’n hael, ac mae modd noddi’r tîm am eu hymdrechion hyd nes diwedd mis Medi wrth anfon siec i’r swyddfa sir briodol neu drwy noddi ar-lein drwy gyfrwng JustGiving.

Dywedodd Paul Davies, Pennaeth Codi Arian Cymru a Gogledd Iwerddon Sefydliad y Galon Prydeinig: “Diolch i gefnogaeth a haelioni sefydliadau fel UAC, mae Sefydliad y Galon Prydeinig yn medru brwydro dros bob calon yng Nghymru. Yn ddyddiol, mae 375,000 o bobl yng Nghymru yn ymladd yn erbyn clefyd y galon a phroblemau tebyg arall. Mae cefnogaeth UAC yn galluogi Sefydliad y Galon Prydeinig i fuddsoddi mewn ymchwil meddygol i achub bywyd yng Nghymru, ac o wneud hyn, mae modd newid bywyd miliynau o bobl ar draws y DU ac yn fyd-eang. Ni fyddai hyn yn bosib heb gymorth UAC ac eraill. Mae popeth rydym yn ei wneud yn lleihau’r difrod mae clefyd y galon yn ei achosi yn ein cymunedau.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Last ditch plea to HSBC to reverse decision to axe Welsh language phone line

Published

on

AN MS has issued a last ditch plea to HSBC to reverse its “unacceptable” decision to axe its Welsh language phone service.

Llŷr Gruffydd, who represents North Wales in the Senedd, has spoken out as January 15, the date when the phone line is due to come to an end fast approaches.

The Plaid Cymru politician said executives at the baking giant still have an “opportunity to do the right thing”.

HSBC came under fire after politicians were informed of the bank’s decision to axe its Welsh language service by letter on Wednesday, November 8.

The Senedd’s Culture Committee wrote to the corporation accusing it of “contempt” towards Welsh speakers.

It added that its “failure to maintain an approach consistent with its values is considered disingenuous and disturbing”.

The committee also questioned statements made by José Carvalho, HSBC’s head of wealth and personal banking, who spoke in front of it on November 29.

The banker said that the Welsh-language helpline receives around 22 calls a day, and that the bank had ended up “with only 6% of the calls that are coming in being answered in Welsh” by them.

However, the committee hit back saying this indicates a fundamental failure of service by the bank because it means 94% of calls to the service are not being answered in Welsh,.

The Committee said that the “low number of calls” to the line “reflects” the bank’s “inability to provide a functioning and coherent service that meets the needs of its Welsh speaking customers.”

Llŷr Gruffydd said: “HSBC still has an opportunity to do the right thing by reversing its unacceptable and wrongheaded decision to bring its Welsh language phone service to an end.

“Executives at HSBC should remember that many customers use their banking services because of its Welsh language phone service.

“The bank argues that there isn’t sufficient demand for the helpline because it receives 22 calls a day on average.

“But it’s abundantly clear from the data that with only 6% of those calls being answered in Welsh, they’ve not been coming anywhere near to providing an adequate service.

“Phone calls that are made to the helpline in Welsh should be answered in Welsh. It’s no wonder that a lot of Welsh speakers have given up on phoning it.

“Instead of scrapping the service HSBC’s should invest in it properly for at least 12 months, and that includes ensuring that it is well-advertised. Then at the end of that period it could make a much better assessment of demand.

“The bank’s pledge to ‘arrange a call back in Welsh, within 3 working days is astonishingly disrespectful to Welsh speakers, as well as utterly insensitive to the financial pressures some people will face.

“For a significant number of people, accessing their bank through Welsh is not a ‘choice’ as HSBC claimed.

“HSBC say they ‘have confirmed that all customers can bank in English’, which is frankly an attitude that belongs to the last century. It is also untrue, especially for many elderly and vulnerable people.

“There is understandably a huge amount of anger and frustration right across Wales with HSBC’s general attitude towards the Welsh language.

“Recently I was contacted by a constituent who was quite rightly angry because she had been asked by a member of HSBC’s customer care team to resend a Welsh language query in English.

“That is one of many examples of HSBC’s complete and utter disregard for Welsh speakers.

“As a Welsh speaker myself and as a member of the Senedd’s Culture Committee, I share the real sense of frustration that’s out there.

“Many of their customers in Wales have also seen their local branches close over the last decade.

“The impact of this on their older customers is particularly acute, as well as those who don’t have access to digital technology.

“Though HSBC likes to describe itself as the world’s local bank, it is abundantly clear that this is not the case in Wales as it abandons Welsh speakers and abandons our high streets by shutting down local branches.”

Continue Reading

Cymraeg

Ffermwr yn dysgu popeth y mae angen iddo wybod am ffermio modern drwy Cyswllt Ffermio

Published

on

CYFLWYNODD ei rieni ef i ochr ymarferol ‘tir a da byw’ ffermio yn ifanc iawn, ond i Dylan Morgan, a aned yn Sir Gaerfyrddin, Cyswllt Ffermio sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r unigolyn yma a raddiodd mewn rheoli adeiladu. Dywedodd Dylan fod Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arno i fod y ffermwr ifanc blaengar a hyderus ydyw heddiw.

“A’r peth sy’n wych amdano yw, nad oedd rhaid i mi eistedd trwy oriau o ddarlithoedd theori amaeth am dair blynedd!”

Dywedodd Dylan mai agwedd Cyswllt Ffermio at ei holl wasanaethau hyfforddi a throsglwyddo gwybodaeth yw cyflwyno popeth ar y lefel gywir ar gyfer ffermwyr prysur ond profiadol sy’n gweithio.

“Mae’n ddull o ddysgu ar sail ‘angen gwybod’ sy’n apelio’n fawr ataf gan fy mod yn gallu gwneud lle iddo o amgylch fy nyletswyddau fferm ac ymrwymiadau eraill,” meddai Dylan.

Nid oedd gan Dylan unrhyw fwriad i ddod yn ffermwr pan adawodd Brifysgol Abertawe yn 2011, ond ar ôl ychydig fisoedd yn unig o ffermio’n llawn amser ar fferm bîff a defaid 360 erw ei deulu ger Llanymddyfri, newidiodd ei feddwl yn llwyr.

Roedd yn amlwg yn benderfyniad cywir i’r teulu cyfan ac mae Dylan (32) bellach wedi bod yn ffermio gartref ers bron i un mlynedd ar ddeg.

“Roeddwn i wastad wedi mwynhau helpu gartref pryd bynnag roedd gen i amser rhydd, felly roeddwn i wedi hen arfer ag ochr ymarferol ffermio, ond gan na astudiais i amaethyddiaeth yn y brifysgol, roeddwn i’n teimlo bod yna lawer nad oeddwn i’n ei wybod am iechyd anifeiliaid, pridd a rheoli glaswelltir a’r holl elfennau eraill o ffermio sy’n hanfodol i wella effeithlonrwydd ar y fferm.

“Mae’n hanfodol, fel ffermwyr, fod gan bob un ohonom y wybodaeth sydd ei hangen arnom a systemau yn eu lle i chwarae ein rhan i gadw at y safonau uchaf o les anifeiliaid, cynhyrchu da byw o’r ansawdd uchaf, gan hefyd warchod ein hamgylchedd naturiol a lleihau ein hôl troed carbon.”

Yn gefnogwyr hirdymor gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, a welodd Dylan, ei dad a ffermwyr lleol eraill yn cael cyngor ar faterion yn cynnwys cynllunio rheoli maetholion, archwiliadau carbon a rheoli glaswelltir, mae Dylan yn rhoi llawer o’i amser hamdden i’w ddatblygiad personol.

Gan ddibynnu’n drwm ar ei swyddog datblygu lleol, Alun Bowen, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am yr hyn sydd ar gael, mae Alun wedi cyfeirio Dylan – yn aml yng nghwmni ei dad – at nifer o weithdai iechyd a lles anifeiliaid ar bynciau’n amrywio o ffrwythlondeb y ddiadell a cholledion wyna i wneud y mwyaf o gynhyrchiant buchod sugno, cloffni a rheoli tir. Mae Dylan hefyd wedi dilyn cyrsiau hyfforddi byr â chymhorthdal ac mae’n defnyddio ystod gynhwysfawr y rhaglen o fodiwlau e-ddysgu a ariennir yn llawn yn rheolaidd.

“Mae dysgu ar-lein, mewn cyfnodau byr o 20 munud, gyda chwis ar ddiwedd pob modiwl i sicrhau eich bod wedi cymryd yr holl wybodaeth allweddol i mewn, yn ffordd wych o gynyddu eich gwybodaeth.”

Mae Dylan wedi canolbwyntio’n bennaf ar bynciau iechyd anifeiliaid yn ogystal â rheoli pridd a glaswelltir oherwydd ei fod yn credu’n gryf mewn mabwysiadu agwedd gyfannol at y fferm, gydag ‘arfer gorau ym mhopeth a wnawn’ yn rhan o’u hagenda cynaliadwyedd.

“Diolch i fy ngwybodaeth a sgiliau newydd a thrwy weithredu rhai o’r systemau newydd rydym wedi dysgu amdanynt trwy Cyswllt Ffermio, rydym bellach yn bwydo’r stoc yn llawer mwy effeithlon.

“Mae hyn wedi lleihau ein mewnbynnau’n sylweddol wrth wella perfformiad stoc a chynhyrchiant ac rydym hefyd wedi lleihau lefelau cloffni.”

Mae’r teulu’n sgorio cyflwr y corff yn rheolaidd ac yn meincnodi eu holl stoc ac yn dweud bod cyfrif wyau ysgarthol a phrofi elfennau hybrin trwy Cyswllt Ffermio wedi rhoi gwybodaeth werthfawr iddynt sy’n golygu eu bod wedi lleihau eu dibyniaeth ar driniaethau gwrthlyngyrol drwy fabwysiadu dull wedi’i dargedu’n well.

Gyda’i holl gyflawniadau dysgu wedi’u storio ar-lein yn ei gofnod personol y Storfa Sgiliau, mae Dylan yn dweud bod y system yn ffordd ddefnyddiol o nodi unrhyw feysydd y mae’n dal eisiau dysgu amdanynt.

“Mae ffermio yn ddiwydiant sy’n esblygu ac felly mae angen i ffermwyr o bob cenhedlaeth wybod eu bod yn ddigon gwybodus i wynebu’r cyfleoedd a’r heriau sydd o’u blaenau.”

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

I gael rhagor o wybodaeth am holl wasanaethau cymorth a hyfforddiant Cyswllt Ffermio ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.

Continue Reading

Cymraeg

Cyfle gwych i ennill gwobr yn atyniadau Awdurdod y Parc dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi

Published

on

BYDD tri atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dosbarthu cennin Pedr i ymwelwyr yn rhad ac am ddim ar 4 a 5 Mawrth eleni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Bydd gan Gastell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc nifer cyfyngedig o gennin Pedr i’w dosbarthu i bobl sy’n ymweld â’r safleoedd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi.

Yn ôl y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod y Parc: “Rydyn ni’n annog cynifer â phosib o bobl i ymuno â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, a pha ffordd well o ddathlu diwylliant Cymru yn eich cartref na chael tusw o’r blodau lliwgar yma?

“Bydd y cennin Pedr yn cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin. Oherwydd mai dim ond nifer cyfyngedig fydd ar gael ar bob safle, byddwn yn annog pobl i ymweld â’r safleoedd cyn gynted â phosib ar 4 neu 5 Mawrth er mwyn manteisio ar y cynnig hwn.”

Bydd Parêd blynyddol y Ddraig hefyd yn cael ei gynnal yn Nhyddewi ddydd Sadwrn 4 Mawrth, gyda chriw o ddisgyblion ysgol ac aelodau gofal yn y gymuned yn gadael Oriel y Parc am 11am.

I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Caeriw, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/.

I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Henllys, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/

I gael yr amserau agor a gwybodaeth am y digwyddiad ar gyfer Oriel y Parc, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/.

Continue Reading

Crime17 hours ago

Pembrokeshire pensioner accused of 17 sexual offences against children

A 72-YEAR-OLD Pembrokeshire man has appeared before magistrates charged with 17 sexual offences against children under the age of 14....

News18 hours ago

Police and air ambulances at ‘serious incident’ at West Wales school

DYFED POWYS POLICE has said it is dealing with an incident at a west Wales school. There has been a...

News2 days ago

Haverfordwest interchange: Next stage of £19m project backed

The second stage of building Haverfordwest’s near-£19m transport interchange has been backed, with senior councillors hearing it could cost the...

News5 days ago

20mph U-turn: Some roads will return to 30mph following public outcry

IN a recent shift in policy, Transport Secretary Ken Skates announced that some roads in Wales will revert to a...

News6 days ago

Police issue update on the search for Luke, missing from Pembroke Dock

POLICE have made the difficult decision to end the search for Luke, following a joint decision by all the agencies...

Entertainment7 days ago

NoFit State Circus set to thrill Pembrokeshire this summer

NoFit State Circus is set to captivate Pembrokeshire once again this summer, as they bring back their thrilling big top...

News1 week ago

Search for missing teenager Luke continues at Pembroke Dock

THE SEARCH for the missing 19-year-old, Luke, continues unabated into its fourth day, with efforts increasingly centred around the waterways...

Crime1 week ago

Estate agents admit health and safety failings following fatal market incident

WEST WALES estate agents J J Morris have appeared before Pembrokeshire law courts charged with failing to discharge general health,...

Crime1 week ago

Pembroke man sent ‘grossly offensive and disgusting’ message to sister

A DISTRICT Judge has described how a Pembroke man sent a ‘disgusting, appalling and grossly offensive’ message to his sister...

News1 week ago

Dragon LNG ‘monitoring’ scrap car blaze in Waterston

A BLAZE has broken out at the Waterston Car Dismantler’s business in Waterston, Milford Haven. Dragon LNG which is situated...

Popular This Week